Prif Siaradwyr
Cynhadledd yr Ysgol Seicoleg
Pontio, Prifysgol Bangor, Medi 16 2016
Eleni, mae Prifysgol Bangor yn cynnal ail gynhadledd cyfrwng Cymraeg yr Ysgol Seicoleg ar Ddydd Gwener, Medi 16. Bwriad y gynhadledd yw caniatáu i seicolegwyr gyflwyno a thrafod eu gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg, a chodi ymwybyddiaeth o’r amryw o brosiectau sydd ar y gweill. Rydym yn gobeithio denu ymchwilwyr o nifer o brifysgolion, gyda’r gobaith o hybu cydweithrediad rhwng safleoedd.
Noddir y gynhadledd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol